Fe wnaeth AS Ynys Môn, Virginia Crosbie, ddadorchuddio ei masg wyneb baner Môn newydd yn y Senedd heddiw yng Nghwestiynau Cymreig cyntaf y flwyddyn newydd.
Yna aeth Virginia ymlaen i wisgo’r mwgwd yng Nghwestiynau’r Prif Weinidog.
Credir mai dyma’r tro cyntaf i baner yr ynys gael ei dangos yn Nhŷ’r Cyffredin.
“Roeddwn yn falch iawn o wisgo’r mwgwd wyneb hwn a rhoi baner hardd ein ynys hardd i’w gweld yn Nhŷ’r Cyffredin,” meddai Virginia.
“Cefais gryn dipyn o ganmoliaeth am y peth hefyd a byddaf yn ei wisgo tra cynghorir i wneud hynny.
“Mae’n anrhydedd i mi fod yn AS Ynys Môn ac yn Ysgrifennydd Preifat Seneddol (PPS) yn y Swyddfa Gymreig.
“Byddaf yn parhau i godi proffil Ynys Môn a Chymru mewn unrhyw ffordd y gallaf fel y gall elwa o hyd yn oed mwy o fuddsoddiad a chreu swyddi wrth i ni wella o’r pandemig.”
Yn ôl gwefan Sefydliad y Faner, mae baner Ynys Môn yn tarddu o’r 15fed ganrif.
Mae’r dyluniad yn deillio o arfau a briodolir gan heraldau canoloesol I dathlu’r rheolwr lleol enwog o’r 12fed ganrif, Hwfa ap Cynddelw o Ystâd Presaddfed, ger Bodedern.
Roedd Hwfa yn stiward honedig i Owain Gwynedd, Tywysog Cymru.