Ffilmiodd AS Ynys Môn, Virginia Crosbie, ei chyfweliad cyntaf yn y Gymraeg yr wythnos hon pan ymddangosodd ar Y Byd yn ei Le gyda Guto Harri ar S4C.
Addawodd Virginia, sy’n ferch i Gymro, ddysgu’r iaith pan gafodd ei hethol yn 2019.
Ers hynny, mae hi wedi mynychu gwersi, wedi dilyn cwrs preswyl a’r haf diwethaf aeth ymlaen i basio’r prawf Lefel Mynediad Cymraeg i Oedolion gyda sgôr o 95%.
Yn ystod y cyfweliad, soniodd Virginia am ddigwyddiadau yn Stryd Downing, Yr Wcráin, y pandemig a’r economi. Siaradodd hefyd am ei blaenoriaethau lleol ar gyfer Wylfa Newydd a phorthladd rhydd i ddod â swyddi a buddsoddiad i’r ynys.
“Roeddwn i’n eithaf nerfus yn ystod y cyfweliad, ond rwy’n meddwl fy mod i’n awr ar y pwynt lle gallaf gynnal cyfweliad yn Gymraeg gyda pharatoad a chymorth gan gyfwelydd caredig fel Guto,” meddai Virginia.
“Rwy’n dal yn bell o allu siarad yn hir iawn am bynciau cymhleth ond rwy’n teimlo fy mod yn cadw fy addewid i ddysgu’r iaith ac yn gwneud cynnydd yn araf deg.
“Tyfodd fy nhad i fyny yn siarad Gymraeg yn yr ysgol yn Nhrefynwy ac rwy’n falch o fod yn dilyn y traddodiad teuluol Cymreig hwnnw.
“Gobeithio bod fy nhaith yn annog pobl eraill i ddysgu Cymraeg hefyd. Mae’n gofyn am ddyfalbarhad – rhywbeth mae gen i lond trol ohono!
“Rwy’n benderfynol o gynrychioli cymuned Ynys Môn drwy ddysgu’r famiaith a chadw ein diwylliant balch yn fyw.”