Mae AS Ynys Môn, Virginia Crosbie, wedi sicrhau £100,000 i ariannu astudiaeth ddichonoldeb sy’n edrych ar opsiynau ar gyfer datblygu’r hen reilffordd rhwng Amlwch a Gaerwen.
Er mwyn gwneud y cyfanswm, bydd y cais £50,000 – a gyflwynwyd gan Virginia i Gronfa Syniadau Adfer Eich Rheilffyrdd Llywodraeth y DU – yn cael ei gyfateb gan Lywodraeth Cymru.
Cyhoeddodd yr Adran Drafnidiaeth (DfT) heddiw fod y cais yn llwyddiannus. Mae’n golygu y gellir gwneud gwaith i archwilio’r defnydd gorau o’r llinell.
Mae yna sawl ffordd y gellid ei ddefnyddio eto. Mae’r rhain yn cynnwys ei adfer fel rheilffordd, ei ddefnyddio’n rheilffordd drefol (e.e. ar gyfer tramiau) neu ei ddatblygu’n llwybr beicio a cherdded.
Mae’n bosib y gallai’r opsiwn olaf olygu agor llwybr o Niwbwrch i Amlwch – gan gysylltu de a gogledd yr ynys ac ymuno â Llwybr Arfordir Ynys Môn.
“Mae’r llinell segur hon wedi mynd yn angof ers tro byd, ond bydd y chwistrelliad arian hwn i edrych ar opsiynau ar gyfer ei ddyfodol yn ei roi yn ôl ar y trywydd iawn,” meddai Virginia.
“Rwy’n falch iawn bod yr Adran Drafnidiaeth wedi cytuno â mi bod gan y llinell botensial enfawr ar gyfer hamdden a thwristiaeth yn Ynys Môn, a hoffwn ddiolch i bawb a gefnogodd y cais.
“Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r tîm Trafnidiaeth Cymru a’r rhai a anfonodd lythyrau i gefnogi’r cais – Menter Môn, M-SParc, Môn CF, Llywodraeth Cymru, cyngor Ynys Môn, Cyngor ar Bopeth ac AS Ynys Môn Rhun ap Iorwerth.
“Rhaid i ni ddod o hyd i’r ffordd orau o adfywio’r llinell. Edrychaf ymlaen at ddarllen yr astudiaeth ddichonoldeb a’i chasgliadau. “
Cyfarfu Virginia hefyd â’r Gweinidog Trafnidiaeth Chris Heaton-Harris i drafod y prosiect a’i berswadio i gefnogi’r cais.
Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Grant Shapps: “Mae’r £50,000 hwn – a gyfatebwyd yn ariannol gan Lywodraeth Cymru – wedi’i ddynodi i gynnal astudiaeth ddichonoldeb i edrych ar yr holl opsiynau sy’n bodoli ar gyfer y rheilffordd segur hon.
“Nid yw’r gronfa ar gyfer adfer rheilffyrdd yn unig, ond yn hytrach defnyddio hen reilffyrdd a llwybrau fel y gall y gymuned eu defnyddio eto at amrywiaeth o ddibenion hamdden.
“Edrychaf ymlaen at glywed gan Virginia am y cynnydd o ran datblygu’r rheilffordd rhwng Amlwch a Gaerwen. Roedd ei chais yn argyhoeddiadol ac mae hi’n hyrwyddwr brwd iawn dros Ynys Môn.”